English
Cymraeg
Gwynedd Bat Group
Grwp Ystlumod Gwynedd
 

Calendr a Gweithgareddau.

Gaeaf – Monitro safleoedd gaeafgysgu
Gwanwyn – Cyrsiau hyfforddi adfywiol, ymchwiliad blychau nythu
Haf – Monitro ystlumod pedol lleiaf, cyfri ystlumod lleiaf,
- Mehefin - canol haf cyfri ystlumod yng Ngwesty Cobdens

Arolygon ym Mharc Cenedlaethol Eryri i Brosiect Atlas Eryri Hyfforddiant ac offer ar gael i fenthyca i aelodau o’r Grwp Ystlumod.

Wythnos Bioamrywiaeth – Cysylltiadau i bartneriaethau bioamrywiaeth lleol (CGBLl)Gwynedd, Ynys Môn, ac APCE i ddilyn.

Awst - Monitro ystlumod y dwr, diwedd Awst - Wythnos Ewropeaidd Ystlumod - ymwelwch â gwefan Ymddiriedolaeth Cenedlaethol Ystlumod (BCT) am restr lawn o ddigwyddiadau ym Mhrydain

Hydref – Cynhadledd Cenedlaethol Ystlumod, mis Medi
- Gweithdai Gweithwyr Ystlumod yng Nghymru, mis Hydref

Mae Grwp Ystlumod Gwynedd yn cyfarfod ar yr ail Ddydd Llun ym mhob mis ac eithrio mis Mehefin, Gorffennaf ac Awst, Mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal bob yn ail rhwng Capel Curig a Maentwrog. Tâl aelodaeth flynyddol i’r Grwp yw £5.Gadewch i ni wybod os hoffech ymuno.

Y llefydd gorau i wylio ystlumod yng ngogledd orllewin Cymru – maent i gyd yn agored i’r cyhoedd

Ynys Môn
Nant-y-pandy /The Dingle, Llangefni
Llyn Cefni, Llangefni

Gwynedd
Lôn Eifion, i’r de o Gaernarfon
Llyn Padarn, y bont i’r gogledd o Lanberis
Gwesty Cobden/Cobden’s Hotel, Capel Curig (Clwyd)
Pont dros yr Afon Dwyryd ym Maentwrog
Hen bont dros yr afon yn Llanelltud, ger Dolgellau
Gwarchodfa’r RSPB, Conwy

Gogledd ddwyrain Cymru - Lagwn yn y Ganolfan Treftadaeth Greenfields, Holywell

- gadewch i ni wybod os gwyddoch am lefydd eraill!

Cyfarfodydd gweddill y flwyddyn:
13 Tachwedd 2006, Gwesty Cobden, Capel Curig, 8yh
11 Rhagfyr 2006, Grapes, Maentwrog, 8yh
Croeso cynnes i’r holl aelodau ac aelodau newydd.

Designed and hosted by RML Ltd. Copyright © 2006. All rights reserved